P 08
Ymchwiliad i’r Adolygiad Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Inquiry into the Priorities for the Health, Social Care and Sport Committee
Ymateb gan: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Response from: Older People’s Commissioner
Dai Lloyd AC
Cadeirydd
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caerdydd
CF99 1NA
26 Awst 2016
Annwyl Dai Lloyd AC
Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Rwy’n ysgrifennu mewn ymateb i'r cyfle i roi sylwadau ar flaenoriaethau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Rwy’n croesawu’r blaenoriaethau y mae’r Pwyllgor eisoes wedi’u pennu, llawer ohonynt yn berthnasol iawn i fywydau pobl hŷn ledled Cymru. Ond, mae pedwar maes yn benodol sydd â chysylltiad agos â'm blaenraglen waith fy hun a’m Fframwaith ar gyfer Gweithredu, a byddwn yn rhoi cefnogaeth frwd i waith gan y Pwyllgor yn y meysydd hyn.
Integreiddio gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Mae gwaith rwyf wedi’i wneud yn y gorffennol ar integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r effaith ar bobl hŷn ar gael yma.
Gofal Sylfaenol:
Ar hyn o bryd, rwy’n cyflawni gwaith i ddeall mynediad pobl hŷn at wasanaethau meddygon teulu a’u profiadau gyda’r gwasanaethau hyn, drwy sesiynau trafodaeth grŵp a holiadur. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn gynnar yn 2017. Felly, rwy’n teimlo y byddai gwaith gan y Pwyllgor yn y maes hwn yn berthnasol iawn ar ôl i'm hadroddiad gael ei gyhoeddi.
Defnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal:
Mae’r Pwyllgor yn iawn yn tynnu sylw at y pryderon a godais am y defnydd amhriodol o feddyginiaethau gwrthseicotig yn fy adolygiad o gartrefi gofal . Mae’r cynnig i'r Pwyllgor asesu maint y broblem, ac ystyried atebion posibl i’w groesawu. Byddaf yn gwneud gwaith dilynol ar yr adolygiad o gartrefi gofal yn ystod y flwyddyn nesaf.
Unigrwydd ac unigedd ymhlith pobl hŷn:
Mae’r Pwyllgor yn iawn i nodi’r pryderon a godais am lefelau unigrwydd ac unigedd ymhlith pobl hŷn, a ddylai gael ei ystyried yn fater o bwys yng nghyswllt iechyd y cyhoedd. Mae unigrwydd ac unigedd yn un o bum prif elfen y rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru yr wyf yn gadeirydd arni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Dilynwch y linciau canlynol os gwelwch yn dda i fy mhapur briff sy’n amlinellu fy mlaenraglen waith, fy Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad ar gyfer 2015-16 a’m Fframwaith ar gyfer Gweithredu, gan y gall y rhain ddarparu gwybodaeth gefndir ddefnyddiol i waith y Pwyllgor. Byddwch cystal â rhoi gwybod imi petaech yn hoffi cael trafodaeth bellach am unrhyw ran o'r gwaith rwyf wedi’i nodi yn y llythyr hwn wrth i waith cynllunio’r Pwyllgor fynd rhagddo.
Yn gywir,
Sarah Rochira
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru